#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-700

Teitl y ddeiseb: Ariannu Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Cyrsiau Ôl-raddedig

Testun y ddeiseb: "Mae llawer o bobl sy'n dymuno cael addysg y tu hwnt i lefel israddedig bellach yn cael eu rhwystro gan y ffaith ei bod yn ofynnol iddynt gael benthyciad banc er mwyn ariannu eu hastudiaethau. Credaf y dylai'r Llywodraeth wneud mwy i sicrhau y gall pobl sy'n gweithio fforddio i barhau gyda'u haddysg. Ar hyn o bryd, mae hynny'n arwain at ddyled fawr, a hynny ond os ydynt yn gymwys ar gyfer benthyciad banc."

 

Cefndir

Mae'r sefyllfa o ran cyllid ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig yn 2016-17 yn wahanol yng Nghymru a Lloegr. Disgwylir i'r sefyllfa yng Nghymru newid ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18.

Y sefyllfa yn Lloegr

O 1 Awst 2016, gall myfyrwyr cymwys sy'n hanu o Loegr ac yn dechrau cwrs Meistr amser-llawn neu ran-amser wneud cais am fenthyciad ôl-raddedig. Bydd myfyrwyr yn gallu benthyg hyd at £10,000 i dalu eu ffioedd a helpu gyda chostau byw. Bydd myfyrwyr cymwys:

·         O dan 60 oed;

·         Yn byw yn Lloegr fel arfer;

·         Heb fod yn meddu ar radd Meistr neu gymhwyster uwch.

Ni fydd y benthyciad yn dibynnu ar incwm personol neu incwm teulu. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael ar wefan Llywodraeth y DU. Cyllid ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig yn Lloegr

Y sefyllfa yng Nghymru

Ar hyn o bryd (ym mlwyddyn academaidd 2016/17), nid oes cynllun tebyg yn bodoli ar gyfer benthyciadau ôl-raddedig yng Nghymru. Fodd bynnag, ym mis Medi 2015, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, mai dyma fyddai 'nod polisi' Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) fel ei unig asiant cyflenwi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr addysg uwch ac addysg bellach o Gymru. Cwmni cyfyngedig yw SLC a'i unig gyfranddalwyr yw pedair llywodraeth y DU. Mewn llythyr dyddiedig 28 Medi 2015 at Jo Johnson AS, Gweinidog y DU dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, dywedodd Huw Lewis:

¡    Cafodd newidiadau diweddar i'r fframwaith llywodraethu a nawdd y mae SLC yn gweithredu ynddo eu hysgogi gan fuddiannau Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau [y DU], a hynny ar draul y gweinyddiaethau datganoledig;

¡    Daeth y pedair adran nawdd yn y DU i 'ddealltwriaeth gyffredin' na ddylid rhoi unrhyw newidiadau polisi mawr ar waith nes bod SLC wedi sefydlogi ei allu i gyflawni ac wedi gosod systemau craidd newydd;

¡    O ganlyniad i alwadau 'sylweddol iawn' gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, ni lwyddodd SLC i ymateb i unrhyw geisiadau gan y gweinyddiaethau datganoledig ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Rhwng mis Mawrth a mis Mai 2016, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch y Cymorth ar gyfer astudiaethau ôl-radd a graddau peirianneg, technoleg neu gyfrifiadureg rhan-amser. Amlinellodd yr ymgynghoriad gynllun benthyciadau dros dro arfaethedig i'w roi ar waith ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18 i gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig Cymru. Cafodd yr achos dros newid ei gydnabod ym mharagraff 28:

28. Mae’r dystiolaeth ynglŷn â phwysigrwydd economaidd cynyddol cymwysterau ôl-radd, y cysylltiad rhwng cyfoeth, astudiaethau ôl-radd blaenorol a symudedd cymdeithasol, a’r sylw cynnar gan adolygiad Diamond ynglŷn â’r sefyllfa yng Nghymru o'i chymharu â Lloegr, yn cyflwyno sail resymegol argyhoeddiadol o blaid darparu cymorth ariannol. Gall darpariaeth o’r fath gefnogi llwyddiant amcanion llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Bydd cynllun interim arfaethedig Cymru yn debyg iawn i'r un yn Lloegr. Cynigir y bydd myfyrwyr cymwys sy'n hanu o Gymru yn gallu benthyg hyd at £10,000 i'w helpu i astudio'n amser-llawn. Rhaid eu bod yn bodloni’r canlynol:

·         Nid ydynt dros 60 oed

·         Nid ydynt eisoes yn meddu ar gymhwyster ôl-raddedig ar lefel gyfwerth ac

·         Maent yn dilyn cwrs cymeradwy (cwrs a addysgir neu gwrs ymchwil).

Cynigir y canlynol: bydd ad-daliadau yn dechrau ar £21,000 (gyda'r trothwy hwn wedi'i rewi tan 2021); codir llog ar y mynegai prisiau manwerthu + 3%; a gwneir ad-daliadau ochr yn ochr ag unrhyw ad-daliadau dyledion israddedig.

Yr Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond

Disgwylir i adroddiad terfynol ac argymhellion yr adolygiad annibynnol o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr gael eu cyhoeddi ym mis Medi 2016. Un o flaenoriaethau allweddol yr adolygiad yw gwneud argymhellion clir ynghylch dyfodol cyllid tymor hwy a chryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer ôl-raddedigion Cymru.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor Busnes a Menter ar y Gyllideb Ddrafft (14 Ionawr 2016), holwyd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ar y pryd, ynghylch cyflwyno benthyciadau ôl-raddedig. Wrth ymateb, dywedodd:

“The postgraduate loan situation has been a very fraught one. I’m sure you’ve seen that the Minister has made several public pronouncements about how distressed we are about the situation of the Student Loans Company and, in fact, Chair, I’d like to suggest, if I may—and forgive me if it’s a bit cheeky—that perhaps the committee would like to ask the Student Loans Company chief executive and chair, to come down and speak to you personally about why they have not been able to support Wales in this next financial year in the way that they’ve supported England, because, quite frankly, we’re very angry about it. So, what they’ve done is that they’ve responded to pressure from English Ministers to do a postgraduate loan, and we have been told categorically that they cannot do that for us in the same period and I just think that that’s not acceptable.”

Aeth yn ei blaen i ddweud:

“So, the answer to your question is: they know that we want to do it as soon as possible. We would have liked to do it now. We haven’t been able to, just for the administrative problems that they’ve had, but we are on record as saying that we’d like to do it as soon as possible.”

Yn dilyn hyn, ysgrifennodd y Pwyllgor Menter a Busnes at y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac at Weinidog y DU dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth (3 Chwefror 2016) yn gofyn am eu hasesiad o'r materion. Yn ei ymateb (8 Mawrth 2016), dywedodd Jo Johnson, Gweinidog Gwladol y DU dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth ar y pryd wrth y Pwyllgor:

Hefyd

Mae'r ymateb gan Christian Brodie, Cadeirydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi'i gyhoeddi yma: Tudalen 58, llythyr gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Yn ei llythyr at y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Kirsty Williams ei bod yn disgwyl i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr fod mewn sefyllfa i redeg cynllun benthyciadau dros dro ar gyfer myfyrwyr sy'n hanu o Gymru yn 2017.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.